Gwasanaeth Gwarcheidiaeth i bob Plentyn ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru — Briff Ymchwil

The Children's Society
38 min readApr 2, 2024

--

Rydyn ni’n galw am Wasanaeth Gwarcheidiaeth ar sail statudol a fyddai’n darparu gwarcheidwad ar gyfer pob Plentyn ar ei ben ei Hun yng Nghymru sy’n ceisio lloches.

“Os nad oes gennych chi warcheidwad, mae fel ceisio gweld yn y tywyllwch.”
-Aelod, Y Comisiwn Ieuenctid, Cymdeithas y Plant

Rydyn ni, ynghyd â Sefydliad Bevan, Cymdeithas y Plant a’r Groes Goch Brydeinig, wedi paratoi briff ymchwil, lle rydyn ni’n cyflwyno achos dros Wasanaeth Gwarcheidiaeth cenedlaethol i’r holl Blant ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru.

Mae plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain ymysg yr aelodau mwyaf agored i niwed o’n cymdeithas, ac mae gofyn iddyn nhw ymgymryd â’r broses gymhleth o geisio lloches, yn aml wrth wynebu trawma a thrallod. Dylai unrhyw blentyn, gan gynnwys un sy’n ceisio lloches, allu mwynhau’r holl hawliau a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, a dylai gael yr un warchodaeth ag unrhyw blentyn arall sy’n cael ei amddifadu o’i amgylchedd teuluol yn barhaol neu dros dro.

Mae galw am Wasanaeth Gwarcheidiaeth ar gyfer yr holl Blant ar eu Pen eu Hunain ers nifer o flynyddoedd, ac fe gefnogir hyn gan gyrff uchel eu parch yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae sefydlu Gwasanaeth Gwarcheidiaeth wedi bod yn ddisgwyliad clir gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ers dechrau datganoli. Yn ei Sylwadau Terfynol yn 2023, argymhellodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn unwaith eto y dylid cyflwyno Gwasanaeth Gwarcheidiaeth ar gyfer pob Plentyn ar ei ben ei Hun.

Mae galwadau am Wasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru wedi cael eu gwneud ers 2005, a daeth yr alwad ddiweddaraf yn 2023 mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau cynghori ar fewnfudo yng Nghymru.

Mae ein papur briffio yn nodi bylchau yn y gefnogaeth i Blant ar eu Pen eu Hunain o ran cael mynediad at gyfiawnder ac ymgymryd â’r broses o geisio lloches, yn enwedig o ran gallu cael gafael ar wasanaethau hanfodol.

Rydyn ni’n trafod yr angen am wasanaeth o’r fath ac yn cyflwyno tystiolaeth o’i fanteision, yn ogystal â nodi’r hyn sy’n allweddol mewn gwasanaeth effeithiol, gan gynnwys y manteision allweddol y byddai Gwarcheidwaid yn eu cynnig.

Gweler ein Briff Ymchwil yma:

Awduron
Tom Davies
Isata Kanneh
Rhian Croke
Naomi White

Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
Cymdeithas y Plant
Sefydliad Bevan
Y Groes Goch Brydeinig

Ynglŷn â’r briff hwn
Cafodd y briff hwn ei gynhyrchu ar y cyd gan Gymdeithas y Plant, Sefydliad Bevan, Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, a’r Groes Goch Brydeinig. Mae’n seiliedig ar gyfuniad o wybodaeth gan bob un o’r pedwar partner, eu hymchwil i bwnc Gwarcheidiaeth i Blant ar eu Pen eu Hunain, a chyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol.

Cydnabod
Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y briff hwn, gan gynnwys (ond heb eu cyfyngu i):

Guardianship Scotland
JustRight Scotland

Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn gyda chefnogaeth:
Justice Together

Cysylltiadau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y briff hwn, cysylltwch â:

Tom Davies — Tom.Davies@childrenssociety.org.uk
Isata Kanneh — isata.kanneh@bevanfoundation.org
Rhian Croke — rhian.croke@swansea.ac.uk
Naomi White — NaomiWhite@redcross.org.uk

“Os nad oes gennych warcheidwad, mae fel ceisio gweld yn y tywyllwch”
-
Aelod, Comisiwn a Arweinir gan Bobl Ifanc, Cymdeithas y Plant

Crynodeb Gweithredol
Argymhelliad: Cyflwyno Gwasanaeth Gwarcheidiaeth ar seiliau statudol a fyddai’n darparu gwarcheidwad i bob Plentyn ar eu Pen eu Hunain1 yng Nghymru.

Mae plant a phobl ifanc ar eu pen eu hunain ymhlith rhai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas, sy’n gorfod ymwneud â’r broses gymhleth o geisio lloches. Yn ein hadroddiad, rydym yn dadlau o blaid Gwasanaeth Gwarcheidiaeth cenedlaethol i bob Plentyn ar eu Pen ei Hunain yng Nghymru. Rydym yn dangos yr angen am y gwasanaeth ac yn cyflwyno tystiolaeth o fuddiannau gwasanaeth o’r fath. Yn olaf, rydym yn disgrifio nodweddion gwasanaeth effeithiol ac yn nodi’r prif wasanaethau y byddai Gwarcheidwaid yn eu cynnig.

Galwadau am Wasanaeth Gwarcheidiaeth
Gwnaed yr alwad gyntaf am Wasanaeth Gwarcheidiaeth i bob plentyn ar eu Pen eu Hunain sawl blwyddyn yn ôl ac mae’r alwad yn cael ei gefnogi gan gyrff uchel eu parch yng Nghymru a thu hwnt.

  • Mae sefydlu Gwasanaeth Gwarcheidiaeth wedi bod yn ddisgwyliad pendant gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ers dros ugain mlynedd. Yn ei Sylwadau Cloi 2023, argymhellodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn unwaith eto y dylai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth gael ei gyflwyno ar gyfer pob Plentyn ar eu Pen eu Hunain.
  • Mae galwadau am Wasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru wedi’u gwneud ers 2005, gyda’r galwad mwyaf diweddar yn 2023 mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau cynghori i fewnfudwyr yng Nghymru.
  • Mae Cynllun Cenedl Noddfa cyfredol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2019, yn cynnwys gweledigaeth sy’n croesawu, yn cynorthwyo, ac yn integreiddio pobl sy’n chwilio am noddfa yng Nghymru. Wedi’i ategu gan werthoedd Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid (UNHCR), mae’r Cynllun Cenedl Noddfa’n gwneud sawl ymrwymiad sy’n arbennig o berthnasol i Blant ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru. Mae hefyd wedi ymrwymo i dreialu Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru, er nad yw hynny wedi’i wireddu hyd yma.
  • Yn ystod y Pumed Senedd, argymhellodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru.
  • Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cymdeithas y Plant wedi gweithio â’r Comisiwn a Arweinir gan Bobl Ifanc, grŵp o bobl ifanc â phrofiad uniongyrchol o ddefnyddio’r system ceisio lloches. Mae’r grŵp hwn yn galw am gyflwyno Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru a Lloegr.

Pryderon a gâi sylw gan Wasanaeth Gwarcheidiaeth
Mae ein hadroddiad yn amlygu bylchau yn y cymorth sydd ar gael i Blant ar eu Pen eu Hunain, yn enwedig o ran eu gallu i gael cyfiawnder ac i ymwneud â’r broses ceisio lloches. Rydym wedi canfod y pryderon canlynol a fyddai’n cael sylw drwy sefydlu Gwasanaeth Gwarcheidiaeth cenedlaethol i Bob Plentyn ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru:

  • Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i helpu plant i gael cyngor, cymorth neu gefnogaeth a fyddai’n eu helpu i ddiwallu’r anghenion a nodwyd yn eu hasesiadau o anghenion. Yn achos Plant ar eu Pen eu Hunain gallai hyn olygu help i ddilyn y broses o geisio lloches. Mae’r Cod Ymarfer yn ei gwneud yn ofynnol bod gweithwyr cymdeithasol a chynorthwywyr personol yn gweithio â chynrychiolwyr cyfreithiol a gweithwyr achos y Swyddfa Gartref, ac yn darparu cymorth i bobl ifanc sy’n ceisio lloches.
  • Yn seiliedig ar ddata a gafwyd drwy ein cais Rhyddid Gwybodaeth, rhwng 2020 a 2023, dim ond 257 o Blant ar eu Pen eu Hunain, neu 43% o’r Plant ar eu Pen eu Hunain a gafodd gymorth a oedd yn ymwneud yn benodol â’r broses o geisio lloches.
  • Mewn 38% o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, gweithwyr cymdeithasol yw’r unig weithwyr proffesiynol sy’n helpu Plant ar eu Pen eu Hunain i gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol.
  • Dim ond 38% o awdurdodau lleol sydd â pherthynas weithio â chyfreithwyr mewnfudo neu ddarparwyr cyngor cyfreithiol yn eu hardal leol, a dim ond 47% o awdurdodau lleol sy’n gweithio â chyfreithwyr mewnfudo neu ddarparwyr cyngor cyfreithiol o fewn neu’r tu allan i’w hardal leol, i helpu Plant ar eu Pen eu Hunain â’u ceisiadau am loches.
  • Mae cyflwyno’r Ddeddf Mudo Anghyfreithlon yn fygythiad gwirioneddol i hawliau Plant ar eu Pen eu Hunain. Mi fydd yn golygu anawsterau i awdurdodau lleol yng Nghymru wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau i gynorthwyo Plant ar eu Pen eu Hunain. Byddai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yn sicrhau amddiffyniadau gwirioneddol a hanfodol.

Buddiannau Gwasanaeth Gwarcheidiaeth
Byddai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yn sicrhau’r buddiannau canlynol:

  • Eiriol ar ran y plentyn a hyrwyddo eu buddiannau pennaf.
  • Gwella canlyniadau cyfreithiol i Blant ar eu Pen eu Hunain.
  • Canfod ac atal camfanteisio, masnachu mewn pobl a radicaleiddio.
  • Amddiffyn hawliau a hawliau dynol plant.
  • Eu helpu i integreiddio.
  • Gwella deilliannau addysgol.
  • Buddiannau i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio â Phlant ar eu Pen eu Hunain, fel arbed costau a lleihau llwythi gwaith.

Gwaith Gwarcheidwaid
Rydym wedi nodi rhai o nodweddion allweddol Gwasanaeth Gwarcheidiaeth. Dylai’r Gwasanaeth fod:

  • Ar gael i bob Plentyn ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru, ac i bob Plentyn ar eu Pen eu Hunain sy’n cyrraedd Cymru.
  • Yn annibynnol ar unrhyw gorff statudol. Bydd yn gallu gwarchod hawliau a buddiannau plant yn ddiduedd.
  • Wedi’i staffio gan Warcheidwaid sydd wedi’u hyfforddi hyd Lefel 2 OISC neu sy’n cyfateb i IAAS neu sy’n gweithio i gyflawni’r cymwysterau hyn. Byddai hyn yn arwain at fuddiannau enfawr i blant wrth iddynt weithio’u ffordd drwy’r broses lloches a bydd y lliniaru rhai o effeithiau’r dirywiad difrifol yn y ddarpariaeth gyfreithiol i fewnfudwyr yng Nghymru.
  • Gweithio’n glos a chefnogol â gweithwyr cymdeithasol, cynghorwyr cyfreithiol, gweithwyr achos y Swyddfa Gartref, ysgolion, colegau, ac asiantaethau cymorth y trydydd sector ar gyfer ceiswyr lloches sy’n gweithio â phlant.
  • Parhau mewn cysylltiad â Phlant ar eu Pen eu Hunain i weithredu fel ffynhonnell barhaus o gymorth a gwarchodaeth, wrth iddynt gyrraedd annibyniaeth ac oedolaeth.
  • Wedi’i staffio gan Warcheidwaid sydd wedi’u grymuso i godi llais ar ran y plant maent yn gweithio â hwy, sy’n amddiffyn eu buddiannau, ac yn hybu ac amddiffyn eu hawliau.
  • Bod â digon o adnoddau i ddarparu cymorth parhaus a chynhwysfawr i Blant ar eu Pen eu Hunain.
  • Yn seiliedig ar anghenion datganedig Plant ar eu Pen eu Hunain, a ddylai gyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth.
  • Wedi’i staffio gan Warcheidwaid sy’n darparu’r mathau canlynol o gymorth:
  • Meithrin perthnasoedd â’r plentyn sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a chefnogaeth.
  • Helpu’r plentyn i gyfarwyddo ac addasu’n gymdeithasol.
  • Helpu’r plentyn i gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol.
  • Hysbysu’r plentyn am faterion cyfreithiol ac eraill.
  • Gweithio â phlant i’w helpu i ddatblygu datganiadau i ategu eu ceisiadau am loches.
  • Mynychu apwyntiadau â’r Swyddfa Gartref gyda’r plentyn.
  • Cysylltu â chyfreithwyr, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, yr heddlu, a swyddogion y Swyddfa Gartref ar ran y plentyn.
  • Egluro prosesau (e.e. cyfreithiol, gofal, addysg), i sicrhau bod y plentyn yn deall beth sy’n digwydd iddynt, y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud, a pha opsiynau sydd ganddynt.
  • Sicrhau bod lleisiau a dewisiadau plant yn cael eu clywed a’u parchu.
  • Hwyluso presenoldeb ac ymgysylltiad y plentyn mewn cyfarfodydd.
  • Darparu cymorth cyfannol i blant i alluogi integreiddio, parhau i gynghori a darparu cymorth emosiynol.
  • Gwneud atgyfeiriadau at wasanaethau arbenigol (e.e. i roi sylw i bryderon am iechyd corfforol neu feddyliol, darparu gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma, gwasanaethau diwylliannol, neu gymdeithasu a chwarae sy’n briodol i anghenion y plentyn).

Cyfleoedd

  • Mae’r Cynllun Cenedl Noddfa diwygiedig a’r Bil Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn gyfleoedd i gyflwyno Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru.

“Mae’n amhosibl gorbwysleisio pa mor bwysig yw Gwarcheidwad i berson ifanc ar eu pen eu hunain. Mae’r bobl ifanc hyn yn mynd drwy sawl proses gyfreithiol gymhleth a thrawmatig ar yr un pryd. Mae eu Gwarcheidwad yno, bob cam o’r ffordd, i wneud yn siŵr bod y person ifanc yn deall ac yn gallu cyfrannu’n effeithiol at y prosesau hyn… Mewn geiriau eraill, rhaid i bob plentyn ar eu pen eu hunain gael un.”
-
Andy Sirel, Cyfarwyddwr Cyfreithiol a Phartner, JustRight Scotland

1. Cyflwyniad

“Mae’r bobl ifanc hyn yn y canol rhwng gorffennol trawmatig a dyfodol ansicr. Yn fwy na dim mae angen rhywun arnynt y gallant ymddiried ynddynt i’w hamddiffyn gan na fydd gan eu gweithwyr cymdeithasol yr wybodaeth na’r gallu i ddarparu’r math hwn o gymorth i blant sy’n mynd drwy’r broses fewnfudo, sy’n golygu bod yn rhaid i bobl ifanc ar eu pen eu hunain wynebu system lloches a mewnfudo gymhleth a rhwystredig ar eu pen eu hunain.”
-
Aelod, Comisiwn a Arweinir gan Bobl Ifanc, Cymdeithas y Plant

Plant ar eu Pen eu Hunain yw rhai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas, sy’n gorfod ymwneud â’r broses gyfreithiol o geisio lloches, a hynny’n aml wrth brofi trawma ac ansicrwydd. Mae angen help ar blant i weithio’r ffordd drwy’r broses hon sy’n aml yn un gymhleth a dryslyd. Mae angen pwynt cyswllt sy’n cynnig cysondeb a gwybodaeth a chymorth, a chynghorydd y gallant ymddiried ynddynt i amddiffyn ac egluro eu hawliau. Ond yn rhy aml, mae Pen eu Hunain yng Nghymru yn cael eu gadael heb yr wybodaeth, y cymorth a’r eiriolaeth sydd eu hangen arnynt.

Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno’r dystiolaeth dros sefydlu Gwasanaeth Gwarcheidiaeth cenedlaethol a fyddai ar gael i bob Plentyn ar eu Pen eu Hunain pan fyddant yn cyrraedd Cymru. Mae’n disgrifio’r cyd-destun cyfreithiol a’r polisi y byddai gwasanaeth o’r fath yn rhan ohono, ac mae’n amlygu’r galwadau niferus am Wasanaeth Gwarcheidiaeth a wnaed gan amrywiaeth o randdeiliaid, dogfennau polisi, a chyrff rhyngwladol dros gyfnod o flynyddoedd. Mae’r ddogfen yn mynd yn ymlaen i edrych ar wasanaethau presennol, modelau posibl ar gyfer Gwarcheidiaeth, a’r sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd sy’n dangos yr angen am Warcheidiaeth i bob Plentyn ar eu Pen eu Hunain .

Yn olaf, rydym yn cyflwyno ein gweledigaeth ar gyfer Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru ac yn edrych ar rai o fuddiannau a nodweddion allweddol gwasanaeth effeithiol sy’n canolbwyntio ar y plentyn.

1.1. Nodiadau ar fethodoleg

Daw rhai o ganfyddiadau’r adroddiad hwn o gais Rhyddid Gwybodaeth a anfonwyd at bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Yn y cais, roeddem yn gofyn am wybodaeth am y cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol i Blant ar eu Pen eu Hunain, yn bennaf yng nghyd-destun y broses ceisio lloches. Roeddem yn gofyn hefyd am wybodaeth am berthnasoedd gweithio awdurdodau lleol â chyfreithwyr mewnfudo yn eu hardaloedd lleol. Cawsom ymateb gan 21 o awdurdodau lleol.

Rydym wedi cynnwys tystiolaeth a dyfyniadau o gyfweliadau a gynhaliwyd â Guardianship Scotland a JustRight Scotland. Gofynnwyd i’r Independent Child Trafficking Guardianship Service hefyd, ond oherwydd pwysau gwaith, nid oedd neb o’r gwasanaeth ar gael i gael eu cyfweld.

Cafodd y dyfyniadau gan bobl ifanc yn y ddogfen hon eu casglu gan Gymdeithas y Plant ac fe’i gwnaed gan bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn eu Comisiwn a Arweinir gan Bobl Ifanc.

2. Y ddadl dros gael Gwasanaeth Gwarcheidiaeth cenedlaethol

“Yr unig beth ydym ei eisiau yw byw mewn gwlad ddiogel, mewn amgylchedd diogel. Mae’r holl system yn teimlo’n llethol. Fel bod gormod o bethau’n digwydd ar yr un pryd.”
-
Aelod, Comisiwn a Arweinir gan Bobl Ifanc, Cymdeithas y Plant

Mae ymrwymiad i barchu, amddiffyn, a chyflawni nodau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) wedi bod yn elfen ganolog o ddeddfwriaeth a pholisi yng Nghymru ers dyddiau cynnar datganoli.i

Ers 2011, o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, rhaid i holl Weinidogion Llywodraeth Cymru roi sylw dyladwy i’r UNCRC a’i brotocolau opsiynol wrth weithredu eu holl swyddogaethau.ii Mae’r ddyletswydd sylw dyladwy i’r UNCRC yn gymwys hefyd i awdurdodau lleol Cymru o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.iii Dylai pob plentyn, gan gynnwys rhai sy’n ceisio lloches, gael mwynhau’r holl hawliau a ddisgrifir yn UNCRC, a dylent gael yr un amddiffyniad ag unrhyw blentyn arall sydd wedi’u hamddifadu’n barhaol neu dros dro o amgylchedd eu cartref.

Mae polisi Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod Plant ar eu Pen eu Hunain yn agored iawn i niwed, ac y dylai plant gael eu trin fel plant yn gyntaf ac fel mewnfudwyr yn ail.iv Pan fyddwn yn edrych ar y rhwymedigaethau a’r ymrwymiadau hyn, ochr yn ochr â buddiannau Gwasanaeth Gwarcheidiaeth, mae’n syndod sylweddoli nad oes Gwasanaeth Gwarcheidiaeth i Bob Plentyn ar eu Pen eu Hunain wedi’i sefydlu eto yng Nghymru. Bu galwadau niferus a chyson i sefydlu Gwasanaeth Gwarcheidiaeth statudol ers dyddiau cynnar datganoli ac mae Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yn ddisgwyliad amlwg gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ers dros 20 mlynedd.

Mae deddfwriaeth sy’n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth y DU fel y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon, yn fygythiad i hawliau plant, sy’n anghydnaws â chyfraith a pholisi Cymru, ac mae’n dangos angen brys am Wasanaeth Gwarcheidiaeth a fyddai’n helpu i ddiogelu buddiannau pennaf ceiswyr lloches ifanc.v Byddai cynllun o’r fath hefyd yn helpu i hybu nodau Cynllun Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru,vi i amddiffyn hawliau plant sydd wedi’u cynnwys mewn cyfraith ryngwladol a chyfraith Cymru, ac sy’n cyflawni saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.vii

2.1. Galwadau niferus a chyson am Wasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru ers dyddiau cynnar datganoli

Ers 2002, mewn Arsylwadau Cloi i Wladwriaeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig sy’n barti, roedd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi argymell sefydlu Gwasanaeth Gwarcheidiaeth ar gyfer ceiswyr lloches ar eu pen eu hunain. Mae’r galwad hwn yn cael ei ategu gan dystiolaeth ceiswyr lloches ifanc yng Nghymru.

Roedd adroddiad manwl a gyhoeddwyd yn 2005 o’r enw ‘Uncertain Futures’ gan Achub y Plant Cymru yn tynnu sylw at anghenion sylweddol plant sy’n geiswyr lloches ifanc Nghymru. Roedd yn argymell:

“Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu system Gwarcheidiaeth i sicrhau bod yr egwyddor lles pennaf yn cael ei chynnal a bod plant sydd wedi’u gwahanu’n cael eu helpu drwy’r system lloches.viii“

Gwnaed y galwad hwn yn fwy diweddar gan Grŵp Monitro Cymru’r UNCRC, cynghrair genedlaethol o sefydliadau anllywodraethol ac asiantaethau academaidd, yn 2006ix mewn cynhadledd Cymru gyfan ac adroddiad ar hawliau plant, ac yn 2007x mewn adroddiad amgen gan gyrff anllywodraethol a gyflwynwyd gerbron Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Cafodd y galwad am Wasanaeth Gwarcheidiaeth ei ailadrodd gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ei arsylwadau Cloi 2008. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Achub y Plant yr un flwyddyn, roedd yn galw eto am Wasanaeth Gwarcheidiaeth gan ddatgan:

“Os yw Llywodraeth y DU a Chynulliad Cymru am sicrhau dyletswydd gyfreithiol ar gyfer pob plentyn a wahanwyd rhaid cael Gwarcheidwad statudol i ddarparu cymorth i gynghori ar fuddiannau pennaf y plentyn yn unol ag Arsylwadau Cloi 2008 y Cenhedloedd Unedigxi.”

Ar yr adeg hon cafwyd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu gwasanaeth o’r fath (yn Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid 2008 a’r ddogfen ymgynghori ar y Cynllun Cyflawni), ond ni chwblhawyd y gwaithxii.

Cafwyd galwad eto gan Grŵp Monitro Cymru’r UNCRC yn 2015 yn ei adroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentynxiii. Yn 2016, nododd Argymhelliad: 77 (b) o Arsylwadau Cloi Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig:

“Sefydlu gwarcheidwaid annibynnol statudol ar gyfer pob plentyn sydd ar eu pen eu hunain neu a wahanwydxiv.”

Fel rhan o’r Ymchwiliad a gynhaliwyd gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Cynulliad Cenedlaethol fel yr oedd ar y pryd, yn 2017, o’r enw ‘“Roeddwn yn arfer bod yn rhywun: Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru,’ argymhellwyd:

“Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu Gwasanaeth Gwarcheidiaeth i Gymru, gyda chefnogaeth rhwydweithiau cymheiriaid, fel ffordd o gadarnhau ymrwymiad Cymru i groesawu plant ar eu pen eu hunain sy’n geiswyr lloches.”

Yn ei Chynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches (2009), roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun Gwarcheidiaeth peilot, ond yn anffodus ni wireddwyd mo’r ymrwymiad hwnnw.xv

Roedd adroddiad Grŵp Monitro Cymru’r UNCRC i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel rhan o’r 6ed/7fed broses adrodd yn 2022 unwaith eto’n galw am Wasanaeth Gwarcheidiaeth statudol.xvi Yn yr archwiliad i Wladwriaeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig sy’n barti (Mai 18/1h 2023) gofynnodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn gwestiynau i holi pam nad oes gan blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches fynediad at warcheidwad annibynnol ym mhob rhanbarth o’r DU. Ailadroddwyd eu hargymhelliad ar gyfer Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yn Sylwadau Cloi’r DU 2023:

“Datblygu system warcheidiaeth gyson, statudol i bob plentyn ar eu pen eu hunain, a sicrhau bod pob plentyn ar eu pen eu hunain ym mhob rhan o awdurdodaethau’r wladwriaeth sy’n barti’n cael eu canfod a bod gwarcheidwad sydd wedi cael hyfforddiant proffesiynol yn cael eu penodi ar eu cyferxvii.”

Mynegodd y Pwyllgor ei bryderon am fod Plant ar eu Pen eu Hunain yn mynd ar goll o westai. Mae o leiaf 440 o blant wedi cael eu cipio o westai yn y DU lle’r oeddent wedi’u lletya ers 2021.xviii Mae plant a gymerwyd o westai yn Sussex a Chaint wedi cael eu darganfod yn Ne a Gogledd Cymru.xix Fel sydd wedi’i gydnabod yn yr Alban (gweler Adran 3.3) mae Gwarcheidwaid yn cynnig sefydlogrwydd a help i blant i adnabod camfanteisio a masnachu mewn pobl, sy’n fygythiadau gwirioneddol i Blant ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru, ac yn wir, gweddill y DU.

Mynegodd y Pwyllgor bryderon difrifol ynglŷn â’r defnydd mynych o ddulliau annibynadwy o bennu oedran plant. Mae Gwarcheidwaid yn helpu plant i ddilyn prosesau asesu oedran cymhleth i’w hatal rhag cael eu hasesu’n anghywir a diweddu mewn llety neu mewn caethiwed ag oedolion heb oruchwyliaeth, lle byddant yn cael eu gorfodi i rannu ystafelloedd ag oedolion nad ydynt yn perthyn iddynt heb unrhyw fesurau diogelu.xx

Rydym yn credu y byddai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth hefyd yn helpu i roi argymhellion Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 2023 ar waith:

“50 (d) Cryfhau mesurau i sicrhau bod pob plentyn sy’n ceisio lloches, sy’n ffoaduriaid neu fewnfudwyr yn cael mynediad prydlon a chyfartal at addysg, gwasanaethau iechyd, tai, cymorth seico-gymdeithasol, ac amddiffyniad cymdeithasol gan gynnwys yr hawl i gael budd-daliadau;

“(50 c) sicrhau bod plant yn cael gwybodaeth a chyngor cyfreithiol sy’n briodol i’w hoedran ar eu hawliau, gweithdrefnau lloches a gofynion am ddogfennaeth; bod eu buddiannau pennaf yn brif ystyriaeth ym mhob proses lloches; bod eu barn yn cael ei chlywed, yn cael ei hystyried ac yn cael sylw haeddiannol; a bod ganddynt fynediad at fecanweithiau a rhwymedïau cyfiawnder sy’n briodol i blant.”xxi

Yn olaf, cafodd yr alwad am Warcheidiaeth ei ategu mewn argymhelliad mewn adroddiad yn 2023, i Lywodraeth Cymru, a ysgrifennwyd gan Dr Jo Wildingxxii.

2.2 Y Cynllun Cenedl Noddfa

“Mae Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru a’n gweledigaeth i Gymru. Rydym yn credu y dylid trin pob unigolyn yn deg, yn enwedig y rheini sydd wedi eu gwthio bellaf i’r cyrion gan systemau cymdeithasol sy’n atal pobl rhag gallu sicrhau eu hanghenion sylfaenol. Rydym yn gweithio i sicrhau dyfodol tecach sy’n galluogi mynediad teg i wasanaethau ac anghenion dynol er mwyn cefnogi cyfleoedd i bob unigolyn ffynnu.”
-
Llywodraeth Cymru, Cenedl Noddfa — Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Llochesxxiii

Mae Cynllun Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru yn cynnig gweledigaeth ar gyfer gweithio mewn meysydd datganoledig i groesawu, cynorthwyo, ac integreiddio pobl sy’n chwilio am noddfa yng Nghymru. Wedi’i ategu gan werthoedd Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid (UNHCR), mae’r Cynllun yn gwneud nifer o ymrwymiadau sy’n adleisio Plant ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru. Byddai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth cadarn sydd wedi’i lunio’n dda’n helpu ac yn ymestyn y gwaith i gyflawni’r ymrwymiadau hyn.

Nod: Uchelgeisiol a Dysgu — Cam Gweithredu 10: Helpu plant ar eu pen eu hunain sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches i sicrhau bod ganddynt fynediad at y cyngor a’r eiriolaeth sydd ei angen arnynt.

Wrth lunio’r Cynllun Cenedl Noddfa, roedd Llywodraeth Cymru’n cydnabod yr effeithiau positif y byddai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yn eu cael ar fynediad Plant ar eu Pen eu Hunain at gyngor ac eiriolaeth. I gefnogi’r nod, cafwyd ymrwymiad yn y Cynllun Cenedl Noddfa i ariannu mesur peilot ar gyfer Gwasanaeth Gwarcheidiaeth :

Bydd Llywodraeth Cymru yn:

“Darparu cyllid i awdurdodau lleol yn ystod 2019 i gefnogi ymarfer peilot mewn perthynas â Gwarcheidiaeth, gan adeiladu ar gymorth eiriolaeth cyfredol a pharhaus o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r gwasanaeth Eiriolwyr Masnachu Plant Annibynnol.”

Ni chafodd y peilot hwn ei roi ar waith.

Mae’r amser am gynllun peilot wedi’u goddiweddyd gan ddatblygiadau cyflym yn y system lloches a’r ddarpariaeth gyfreithiol, sy’n mynnu amddiffyniad i Blant ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru yn awr (gweler Adran 3.1). Mae adnewyddu’r Cynllun Cenedl Noddfa yn gyfle perffaith i adnewyddu’r ymrwymiad hwn i fynediad at gyfiawnder ac i weithredu Gwasanaeth Gwarcheidiaeth i bob plentyn ar eu Pen eu Hunain yn llawn.

Canfu gwerthusiad o gynllun tebyg yn yr Alban fod safle annibynnol Gwarcheidwaid yn eu helpu i ennyn ymddiriedaeth y plant (gweler Adran 3.3). Mae Gwarcheidwaid yn helpu plant drwy’r system lloches. Maent yn mynd gyda phlant i gyfarfodydd â’r Swyddfa Gartref, yn egluro llythyrau a phenderfyniadau wrthynt, yn hwyluso mynediad at gynrychiolwyr cyfreithiol, yn helpu plant i rannu profiadau trawmatig, ac yn gwella dealltwriaeth eiriolwyr o’r plant maent yn gweithio â hwy. Yn bwysig iawn, gwelwyd fod y cynllun wedi arwain at ganiatáu statws ffoaduriaid a diogelwch dyngarol i fwy o unigolionxxiv.

Nod: Ffyniannus a Diogel — Cam Gweithredu 9: Gweithio i atal pobl sy’n chwilio am noddfa, gan gynnwys rhai Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus (NRPF), rhag dioddef masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth fodern.

Mae’r Gwasanaeth Gwarcheidiaeth Masnachu Plant Annibynnol yng Nghymru a Lloegr yn cynnig cyngor, arweiniad, a chymorth i blant sydd wedi dioddef camfanteisio drwy fasnachu a Chaethwasiaeth Fodern (gweler Adran 3.2). Fodd bynnag, ni ellir defnyddio’r gwasanaeth oni bai bod y plentyn wedi dioddef camfanteisio neu Gaethwasiaeth Fodern, a dim ond wedyn y gellir eu hatgyfeirio at y gwasanaeth.

Drwy ennyn ymddiriedaeth yn gynnar a darparu cymorth cyfannol, byddai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth i bob Plentyn ar eu Pen eu Hunain mewn gwell sefyllfa i adnabod arwyddion o fasnachu a chamfanteisio, ac i helpu plant i ddeall eu bod yn dioddef camfanteisio neu’n cael eu paratoi ar gyfer camfanteisio. Byddai’n fwy effeithiol i atal hyn na’r gwasanaeth presennol ar ei ben ei hun, a byddai’n golygu diogelwch gwell a mwy eang i blant sy’n agored i fasnachu a Chaethwasiaeth Fodern.

2.3. Cydymffurfio â dyletswyddau cyfreithiol i Blant ar eu Pen eu Hunain

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yw’r brif ddeddfwriaeth sy’n disgrifio sut y dylai Plant ar eu Pen eu Hunain gael eu helpu. Yn ôl Adran 21 o Ran 3 o’r Ddeddf, mae gofyniad ar awdurdodau lleol i gynnal asesiad o anghenion i ganfod a yw darparu, ymhlith pethau eraill:

“…gofal a chymorth, gwasanaethau ataliol, neu wybodaeth, cyngor neu gynhorthwy, gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau, asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau, ac ystyried unrhyw amgylchiadau eraill sy’n effeithio ar lesiant y plentyn.”xxv

Yn gysylltiedig ag “asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny”, dywedodd Llywodraeth Cymru mewn briff ar helpu Plant ar eu Pen eu Hunain y dylai’r asesiad o anghenion roi sylw i faterion fel “cefnogi cais y plentyn/person ifanc am loches a darparu llety priodol”.xxvi

Hefyd, mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Rhan 6 o’r Ddeddf yn cynnwys adran ar gymorth i “rai sy’n gadael gofal sydd angen cymorth ychwanegol.” Dywed yr adran:

“…Gall y broses o geisio lloches fod yn gymhleth, a dylai gweithwyr cymdeithasol/CP2 weithio gyda chynrychiolydd cyfreithiol y person ifanc a pherchennog dynodedig yr achos yn Asiantaeth Ffiniau’r DU3 i sicrhau bod y person ifanc yn deall y broses o geisio lloches a’r canlyniadau posibl, ac i roi’r cymorth gofynnol iddo”.xxvii

Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru wedi datblygu canllaw i weithwyr cymdeithasol sy’n gweithio â Phlant ar eu Pen eu Hunain. Mae’r canllaw, ymhlith pethau eraill, yn cynnwys gwybodaeth am anghenion sylfaenol (cyfieithu, diogelu, llety, iechyd a lles, ac addysg a hyfforddiant), yn ogystal â gwybodaeth am y broses asesu oedran ac ymateb i amheuon o fasnachu. Mae hefyd yn cynnwys canllaw ar sut y gall gweithwyr cymdeithasol helpu Plant ar eu Pen eu Hunain â’r broses ceisio lloches, fel helpu plant â chyfweliadau cychwynnol a manylach a chael cyngor cyfreithiol. Dywed y canllaw bod yn “rhaid i’r awdurdod lleol helpu’r plentyn i gael cyngor cyfreithiol”.xxviii

Fel y gwelsom uchod, mi all Gwarcheidwad wneud cyfraniad mawr at y broses asesu anghenion a gall fod yn bwynt cyswllt i gydlynu rhwng y plentyn, y gweithiwr cymdeithasol, y cynrychiolydd cyfreithiol, a gweithiwr achos y Swyddfa Gartref. Canfu ein Cais Rhyddid Gwybodaeth fod gwaith â Phlant ar eu Pen eu Hunain sy’n ceisio lloches yn ychwanegu’n sylweddol ar lwyth gwaith gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru. Er hyn, nid yw dros hanner y plant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddeall y broses hawlio lloches ac i gael cymorth cyfreithiol (gweler Adran 3.4). Byddai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yn darparu cymorth pwrpasol a fyddai’n diwallu’r angen hwn ac a fyddai’n cyd-fynd â gwaith gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru ac yn lleihau peth o’r pwysau sydd arnynt.

3. Gwasanaeth Gwarcheidiaeth cenedlaethol yn ei gyd-destun

“Mi wnes lwyddo i oroesi’r [broses lloches] ond mi wn nad yw pob person ifanc yn llwyddo. Rwyf yn adnabod pobl sydd wedi cyflawni hunanladdiad o ganlyniad i’r pwysau. Yn bwysicach na dim, mae arnynt ofn gorfod mynd yn ôl i’w gwlad.”
-
Aelod, Comisiwn a Arweinir gan Bobl Ifanc, Cymdeithas y Plant

3.1. Y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon

Yn ei Sylwadau Cloi 2023, dywedodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn pe bai’r Bil Mudo Anghyfreithlon yn cael ei basio y byddai’n mynd yn groes i hawliau plant o dan yr UNCRC a Chonfensiwn Ffoaduriaid 1951, a phwysodd ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y Bil yn cydymffurfio ag ymrwymiadau’r Wladwriaeth sy’n barti o dan y gyfraith hawliau dynol ryngwladol.xxix Erbyn hyn mae’r Ddeddf Mudo Anghyfreithlon yn gyfraith, ac yn fygythiad difrifol i hawliau Plant ar eu Pen eu Hunain.

Mae Canolfan y Gyfraith Plant Cymru, Sefydliad Bevan, a Chymdeithas y Plant wedi cyflwyno papur briffio ar y cyd mewn ymateb i’r alwad am dystiolaeth gan sawl un o Bwyllgorau’r Senedd cyn pleidlais y Senedd ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn achos y Bil Mudo Anghyfreithlon fel yr oedd ar y pryd, yn 2023 xxx.4 Mae’r papur yn disgrifio’n fanwl y bygythiad i hawliau plant yn sgil y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon.

Mae’r ddeddfwriaeth yn creu dyletswyddau sy’n gwrthdaro ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol ac awdurdodau lleol yn achos rhai 18 oed sy’n gadael gofal ac sydd wedi cael eu lletya fel Plant ar eu Pen eu Hunain. Mi all ei gwneud yn amhosibl yn y dyfodol i awdurdodau helpu rhai ar eu pen eu hunain sy’n gadael gofal. Ni ellir gorbwysleisio’r effaith a gaiff hyn ar Blant ar eu Pen eu Hunain wrth iddynt gyrraedd eu pen blwydd yn 18 oed.

Fel y nodwyd eisoes, mae cannoedd o blant wedi mynd ar goll o westai lloches.5 Bydd y pwysau i ddianc a’r peryg o gael eu paratoi ar gyfer perthnasoedd amhriodol yn cynyddu’n sylweddol pan fydd oedolaeth, ac felly’r posibilrwydd o gael eu cadw yn y ddalfa a’u hallgludo, yn nesáu.6 Mae gan Warcheidwaid rôl holl bwysig i’w chwarae i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu gwarchod, ac i roi sicrwydd ac arweiniad i Blant ar eu Pen eu Hunain a rhai sy’n gadael gofal lle bydd opsiynau cyfreithiol i aros yn y DU. Rydym yn edrych ar hyn yn fanylach yn Adran 4.3.

Mae’n hanfodol bod Plant ar eu Pen eu Hunain sy’n wynebu cael eu cadw yn y ddalfa a chael eu hallgludo’n parhau i gael eiriolaeth a chymorth ar ôl iddynt adael gofal yr awdurdod lleol. Gallai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth gynnig y dilyniant hwn mewn cymorth ymlaen i oedolaeth a helpu i warchod hawliau pobl ifanc sy’n wynebu caethiwed, allgludo, neu gael eu symud i lety’r Swyddfa Gartref.

Mae Adrannau 57 a 58 o’r Ddeddf yn ymdrin â’r Bwrdd Asesu Oedran Cenedlaethol ac mae’n ymdrin â dulliau gwyddonol o asesu oedran, a all gynnwys sganio, pelydr-x, neu fesur rhannau o’r corff, archwilio dannedd, samplo DNA, ac archwiliadau corfforol. Mae’r hawl i apelio yn erbyn asesiad oedran wedi’i ddiddymu. Nid yw’r darpariaethau hyn o’r Ddeddf mewn grym eto, ond ym mis Medi 2023 cyflwynodd llywodraeth y DU reoliadau drafft gerbron y Senedd a fydd, os cânt eu pasio, yn awdurdodi defnydd newydd o belydr-x a delweddu atseiniol magnetig (MRI)xxxi. Nid oes asesiad o effaith wedi’u gynhyrchu yn achos y rheoliadau hyn.

Canfu’r gwerthusiad o gynllun yr Alban (gweler Adran 3.3) fod Gwarcheidwaid yn chwarae rôl bwysig drwy amddiffyn plant a all gael asesiad oedran. Bydd Gwarcheidwaid yn eiriol yn gryf ar ran plant ac mae eu hannibyniaeth o awdurdodau lleol yn golygu na fyddant yn ddarostyngedig i fesurau posibl yn y dyfodol o dan y Ddeddf a all ei gwneud yn orfodol i awdurdodau lleol rannu gwybodaeth â’r Swyddfa Gartref.

3.2. Gwasanaethau presennol ar gyfer Plant ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru

Mae Adran 48 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn gwneud darpariaeth ar gyfer Eiriolwyr Masnachu Plant Annibynnol yng Nghymru a Lloegr, sy’n cael eu hadnabod fel Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol ers 2019.xxxii Mae’r Gwasanaeth Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol yng Nghymru a Lloegr wedi’i gomisiynu gan y Swyddfa Gartref a’i ddarparu gan Barnardo’s.xxxiii Mae’n cynnig cyngor, arweiniad a chymorth i blant (o dan 18 oed) sydd wedi profi camfanteisio drwy fasnachu a Chaethwasiaeth Fodern. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu cymorth ac arweiniad i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio â phobl sydd wedi dioddef camfanteisio a Chaethwasiaeth Fodern. Mae’r gwasanaeth yn awr yn weithredol yng Nghymru ac mewn sawl rhanbarth yn Lloegr.xxxiv

O ganlyniad, mae pob plentyn y credir sydd wedi cael eu masnachu’n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth a bydd y gwasanaeth wedyn yn dyrannu’r achos i gael cymorth uniongyrchol i’r plentyn neu gymorth drwy Gydlynydd Ymarfer Rhanbarthol.

Roedd Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno’r Gwasanaeth Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol yn genedlaethol; fodd bynnag nid yw wedi ei gyflwyno hyd yma mewn mwy na dau draean o’r awdurdodau lleol ac mae galw cynyddol am y gwasanaeth.xxxv Nid oes amserlen wedi’i chadarnhau ar gyfer cyflwyno’r gwasanaeth yn genedlaethol, er bod Gwarcheidiaeth ar gyfer plant wedi’u masnachu wedi’i ymgorffori mewn cyfraith yng Nghymru a Lloegr ers wyth mlynedd. Mae hyn yn golygu bod niferoedd sylweddol o blant sydd wedi’u masnachu heb gymorth arbenigol.

Yn arwyddocaol, mae’r Gwasanaeth Gwarcheidiaeth ar gyfer plant y credir sy’n ddioddefwyr posibl masnachu a chaethwasiaeth fodern yn unig ac nid plant mudol wedi’u gwahanu, fel yn yr Alban. Rydym yn credu ei bod yn holl bwysig bod pob Plentyn ar eu Pen eu Hunain yn cael cymorth a gwarchodaeth, ac y byddai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth cyffredinol yn fwy effeithiol i ganfod ac atal masnachu a chamfanteisio.

3.3. Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban

Mae Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban o fudd enfawr i bobl ifanc, gan amddiffyn plant agored i niwed ac ynysig mewn byd sy’n aml yn elyniaethus ac ansefydlog. Mae cynrychiolwyr cyfreithiol hefyd yn uchel eu canmoliaeth i’r Gwasanaeth. Mae JustRight Scotland sydd, ymhlith gwasanaethau eraill, yn cynnig cynrychiolaeth gyfreithiol ac eiriolaeth i Blant ar eu Pen eu Hunain yn yr Alban, wedi cydweithi’n glos â Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban ers 2010. Mae Gwarcheidwaid wedi cael effaith fawr ar waith JustRight Scotland â Phlant ar eu Pen eu Hunain, gan ymgymryd ag amrywiaeth o rolau o helpu plant drwy’r broses lloches, i sicrhau bod plant sy’n ddryslyd ac wedi dioddef trawma’n cyrraedd eu hapwyntiadau ar amser.

Mae’r Gwarcheidwaid yn helpu cyfreithwyr i roi cyngor buddiol ac i gymryd cyfarwyddiadau, maent yn helpu i fagu perthnasoedd sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, ac mi allant fod yn werthfawr i helpu pobl ifanc i roi tystiolaeth sy’n berthnasol i’w hachos ac i siarad am eu profiadau. Yn fwy na hynny, maent yn darparu eiriolaeth holl bwysig er lles pennaf y plentyn, a hynny’n gwbl ddiduedd. Byddaf yn meddwl yn aml am y gwahaniaethau rhwng profiadau fy mhobl ifanc i sydd â Gwarcheidwad a’r rhai sydd heb un. Yn anffodus, mae’r gwahaniaeth yn anferth ac rydym yn gweld bod y peryglon o niwed, camfanteisio, ailfasanchu neu o syrthio drwy’r bylchau yn y system yn llawer uwch yn achos rhai sydd heb Warcheidwad yn eu bywydau.

Andy Sirel, JustRight Scotland

Y tu hwnt i’r system lloches, mae Gwarcheidwaid yn sicrhau bod plant yn deall ac yn gallu gweithredu eu hawliau, gan egluro prosesau a gwasanaethau, ac eiriol ar eu rhan lle bydd angen. Mae Gwarcheidwaid yn annibynnol ar lywodraeth, awdurdodau lleol, a gwasanaethau statudol eraill. Maent y tu allan i’r system gyfreithiol ac nid ydynt yn ffafrio unrhyw duedd wleidyddol. Mae eu hannibyniaeth yn sicrhau eu bod yn gallu rhoi plant yn gyntaf bob tro.

Canfu gwerthusiad o Wasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban yn 2022xxxvi fod y gwasanaeth yn cael effaith bwysig ar helpu plant i weithio’u ffordd drwy’r system lloches, i gyfarwyddo â’u hamgylchedd newydd, drwy wella ansawdd yr wybodaeth a roddir i blant gan weithwyr proffesiynol eraill, a thrwy wneud unrhyw ryngweithio â phlant yn fwy addas iddynt gan wneud yn siŵr ei fod y digwydd o safbwynt y plentyn. Mae Gwarcheidwaid yn “allweddol i gynorthwyo â mynediad plant at gyfreithwyr mewnfudo ac i hwyluso apwyntiadau â hwy” ac maent yn helpu plant i gasglu a choladu ffeithiau a thystiolaeth i’w helpu yn eu cais am loches.

Yn bwysig iawn, mae Gwarcheidwaid yn yr Alban sy’n gweithio â’r Gwasanaeth yn cael hyfforddiant neu’n gweithio tuag at Lefel 2 OISC, cymhwyster sy’n rhoi dealltwriaeth dda iddynt o’r gyfraith lloches ac sy’n eu galluogi i weithio â’r broses gyfreithiol, yn ogystal â rhoi cyngor cywir ac o safon uchel eu hunain. Byddai gwasanaeth tebyg yng Nghymru’n cael effaith enfawr ar fynediad plant at gyflawnder mewnfudo, sy’n wynebu bygythiad difrifol o ganlyniad i brinder cynghorwyr mewnfudo cymwysedig a diflaniad llwyr bron unrhyw gymorth cyfreithiol ar gyfer mewnfudwyr (gweler Adran 3.5).

Canfu gwerthusiad o Wasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban fod Gwarcheidwaid hyd yn oed yn gallu dylanwadu ar weithredu’r broses lloches, gan gyflymu neu arafu rhannau o’r broses, ac annog gwneud penderfyniadau heb gyfweliad, os byddai hynny er lles y plentyn dan sylw. Yn y pen draw, mae Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban wedi arwain at gynnydd mewn penderfyniadau lloches positif, sy’n dangos ei werth i Blant ar eu Pen eu Hunain yn yr Alban.

3.4. Awdurdodau lleol

I ddeall yn well pa gymorth sydd ar gael i Blant a phobl ifanc ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru, yn enwedig ar lefel leol, gwnaethom gais Rhyddid Gwybodaeth (FOI) i bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Yn y cais hwn, gofynnwyd am wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i Blant ar eu Pen eu Hunain sy’n byw yn ardal pob awdurdod lleol i helpu i ddeall ac i ymgysylltu â’r broses geisio lloches. Yr yn a olygir wrth hyn yw:

  • Helpu’r plentyn i gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol.
  • Hysbysu’r plentyn o achosion cyfreithiol ac eraill.
  • Cysylltu â chyfreithwyr, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yr heddlu a swyddogion y Swyddfa Gartref ar ran y plentyn.
  • Gweithio â phobl ifanc i’w helpu i ddatblygu datganiadau i ategu eu cais am loches.
  • Mynychu apwyntiadau’r Swyddfa Gartref gyda’r plentyn.
  • Darparu cymorth cyfannol i alluogi integreiddio, cyngor a chymorth emosiynol parhaus.

Gofynnwyd yn ein Cais Rhyddid Gwybodaeth hefyd faint o Blant ar eu Pen eu Hunain sy’n cael gofal neu help gan bob awdurdod lleol, yn ogystal â nifer y Plant ar eu Pen eu Hunain sy’n cael gofal neu help gan eu hawdurdod lleol a gafodd help i geisio lloches rhwng 2020 a 2023. Mae ‘cymorth’ yn y cyd-destun hwn yn golygu’r math o gymorth a ddisgrifir gennym uchod.

Cawsom ymateb gan 21 o’r 22 awdurdod lleol. Roedd yr ymatebion yn dangos bod 591 o Blant ar eu Pen eu Hunain yn cael gofal neu gymorth gan awdurdodau lleol yng Nghymru, gyda 240 o blant a phobl ifanc yn dod i ofal awdurdodau lleol Cymru drwy’r Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol.

Ar sail yr ymatebion i’n cais Rhyddid Gwybodaeth, mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn darparu cymorth ar hyn o bryd i Blant ar eu Pen eu Hunain sy’n mynd drwy’r broses lloches. Mae gweithwyr cymdeithasol yn adnabod y plant maent yn gweithio â hwy, ac mae’n bwysig i’r plant hyn fod gweithwyr cymdeithasol yn parhau i’w helpu wrthynt ymwneud â’r broses o geisio lloches. Fodd bynnag, dim ond 257 o Blant ar eu Pen eu Hunain, neu 43% o Blant ar eu Pen eu Hunain, a gafodd gymorth yn benodol i ymgysylltu â’r broses o geisio lloches.

Er ein bod yn croesawu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer y broses ceisio lloches a ddarperir gan awdurdodau lleol i Blant ar eu Pen eu Hunain, mae gwybodaeth gan awdurdodau lleol yn dangos nad yw mwyafrif y Plant ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru wedi cael neu nid ydynt yn cael y cymorth hwn.

Mae’n bosibl bod sawl rheswm am y diffyg hwn, fel llwyth gwaith gweithwyr cymdeithasol neu ddiffyg darpariaeth cyngor cyfreithiol mewn maes penodol. Rydym yn cydnabod bod posibilrwydd y bydd rhai o’r plant hyn wedi cael statws ffoaduriaid eisoes ac nad oes angen y math hwn o gymorth arnynt bellach. Fodd bynnag, mae’n achos pryder bod llai na hanner yr holl Blant ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru yn cael cymorth gan eu hawdurdod lleol i ymgysylltu â’r broses lloches. Nid yw hyn yn cydymffurfio â gofynion y Cod Ymarfer ar gyfer Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Lle mae cymorth i geisio lloches yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol, mae’n golygu bod cyfrifoldeb mawr ar weithwyr cymdeithasol. Yn ôl gwybodaeth a gafwyd yn sgil ein cais Rhyddid Gwybodaeth, mae gweithwyr proffesiynol gwasanaethau cymdeithasol naill ai’n arwain y ddarpariaeth cymorth i helpu Plant ar eu Pen eu Hunain, neu maent yn gyfan gwbl gyfrifol am helpu Plant ar eu Pen eu Hunain i geisio lloches mewn rhwng hanner a bron i draean o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae ‘gweithwyr proffesiynol gwasanaethau cymdeithasol’ yn y cyd-destun hwn yn golygu gweithwyr cymdeithasol a chynghorwyr personol, sy’n gweithio naill ai ar eu pen eu hunain neu â’i gilydd.

Hefyd, mae’r ymatebion i’r cais Rhyddid Gwybodaeth yn dangos mai gweithwyr cymdeithasol yw’r unig weithwyr proffesiynol mewn 38% o ardaloedd awdurdodau lleol Nghymru, sy’n helpu Plant ar eu Pen eu Hunain ac i gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol, ac mewn 33% o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, gweithwyr cymdeithasol yw’r unig weithwyr proffesiynol sydd mewn cysylltiad â chyfreithwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yr heddlu a swyddogion y Swyddfa Gartref ar ran y plentyn.

Mae’n werth edrych ar hyn yng nghyd-destun ehangach capasiti cyfredol gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Yn ôl adroddiad yn 2023 a baratowyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (y Pwyllgor) ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio gofal cymdeithasol i blant, mae gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol yn teimlo bod eu llwyth achosion yn rhy fawr. Dywed yr adroddiad fod gan y rhan fwyaf o weithwyr cymdeithasol lwyth achosion o tua 35 o deuluoedd, a bod gan rai dros 50o deuluoedd. Mewn arolwg diweddar, gofynnodd Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain i’w haelodau nodi’r tair her fwyaf a oedd yn eu hwynebu yn y gweithle. O’r 80 o aelodau sy’n gweithio yng Nghymru a ymatebodd, nododd 53.75% ofynion tasgau gweinyddol, cyfeiriodd 46.25% at eu llwyth gwaith, a dywedodd 79.22% na allent gwblhau eu gwaith o fewn oriau eu contract.xxxvii Rydym yn nodi argymhelliad y Pwyllgor i gyflwyno deddfwriaeth i “osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyfrifo uchafswm y llwythi achosion diogel ar gyfer gweithwyr cymdeithasol plant”.xxxviii

Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Gwarcheidwaid i arwain y gwaith o helpu Plant ar eu Pen eu Hunain â’r broses ceisio lloches. Byddai Gwarcheidwaid a gweithwyr cymdeithasol yn cydweithio â Phlant ar eu Pen eu Hunain, ond Gwarcheidwaid fyddai’n gyfrifol am y gwaith o helpu’r plant hyn i ddeall a gweithio’u ffordd drwy’r broses ceisio lloches, fel eu helpu i gael gafael ar gyngor cyfreithiol a mynd gyda hwy i gyfarfodydd â’r Swyddfa Gartref. Rydym yn credu y byddai hyn yn helpu gweithwyr cymdeithasol i ymdopi’n gwell â’u llwythi achosion a byddai hefyd yn gwella’r cymorth i Blant ar eu Pen eu Hunain.

3.5. Mynediad at gyngor mewnfudo a gwasanaethau cyfreithiol

Yn ein cais Rhyddid Gwybodaeth holwyd am y berthynas weithio rhwng awdurdodau lleol a chyfreithwyr mewnfudo neu ddarparwyr cyngor cyfreithiol. Yn benodol, gofynnwyd a oeddent yn gweithio â chyfreithwyr mewnfudo neu ddarparwyr cyngor cyfreithiol i helpu plant â’u ceisiadau am loches. Yn ôl yr wybodaeth a gawsom, dim ond 38% o awdurdodau lleol sydd â pherthynas weithio â chyfreithwyr mewnfudo neu ddarparwyr cyngor cyfreithiol yn eu hardal leol, a dim ond 47% o awdurdodau lleol sy’n gweithio â chyfreithwyr mewnfudo neu ddarparwyr cyngor cyfreithiol, o fewn neu’r tu allan i’w hardaloedd lleol, i helpu Plant ar eu Pen eu Hunain â’u ceisiadau am loches.

Gellir priodoli’r diffyg cydweithio hwn i raddau i’r prinder gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru, fel yr amlygwyd yn adroddiad Dr Jo Wilding The Adequacy and Availability of Immigration Legal Advice for Forced Migrants in Walesxxxix a gyhoeddwyd fis Ionawr 2023. Amcangyfrifa Dr Wilding fod y Diffyg Cymorth Cyfreithiol Cychwynnol yng Nghymru yn 2,266. Mae’r ffigur hwn yn cyfeirio at nifer yr achosion sy’n dod o fewn cwmpas llawn cymorth cyfreithiol ond lle nad oes cynrychiolaeth ar gael. Nid yw’n cynnwys achosion lle cafodd achos ei ollwng gan gynrychiolydd cyfreithiol rhwng gwaith achos cais ac apêl.

Canfu ymchwil gan Sefydliad Bevan ym Medi 2023xl fod y sefyllfa o ran gwasanaethau cyfreithiol mewnfudo a lloches wedi gwaethygu’n sylweddol yng Nghymru ers Ionawr 2023, pan gyhoeddwyd adroddiad Wilding. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi colli hanner y swyddfeydd a oedd yn darparu gwasanaethau cymorth cyfreithiol ar fewnfudo.

Ar hyn o bryd, mae cyfanswm o saith darparwr cymorth cyfreithiol yng Nghymru, gydag wyth swyddfa rhyngddynt, a heb fawr ddim darpariaeth mewnfudo gan y trydydd sector. Mae’r sefyllfa yn Ne-ddwyrain Cymru, a ddisgrifiwyd yn adroddiad Dr Wilding yn gynharach fel “wedi’i gwasanaethu’n gymharol dda” wedi newid yn sylweddol. Mae’r darparwr cymorth cyfreithiol mwyaf yng Nghymru, a oedd yn arfer bod yn gyfrifol am 47% o’r holl achosion cymorth cyfreithiol yng Nghaerdydd wedi gadael y maes, ac mae hyn wedi cael effaith fawr ar y darparwyr sy’n weddill. Mae’r rhan fwyaf yn awr wedi’u llethu gan y galw ac nid ydynt ar hyn o bryd yn gallu derbyn atgyfeiriadau. Mae pobl, gan gynnwys Plant ar eu Pen eu Hunain, yn cael eu gadael yn gyson heb gynrychiolaeth mewn apelau. Dywedodd cynrychiolydd cyfreithiol mewnfudo, un a gyfrannodd at adroddiad Sefydliad Bevan:

Nid ydym wedi gweld dim byd tebyg o’r blaen. Nid ydym yn cofio adeg pan nad oedd ymgeiswyr cychwynnol am loches, gan gynnwys [Plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches], yn gallu dod o hyd i gyfreithiwr cymorth cyfreithiol i’w cynrychioli.

Mae tystiolaeth ddiweddar gan ddarparwyr cymorth lloches yn dangos nad yw methu â dod o hyd i gynrychiolaeth gyfreithiol i geiswyr lloches yn beth anghyffredin.

Rydym o’r farn y byddai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth Cymru gyfan yn helpu i fynd i’r afael â’r bylchau yn y ddarpariaeth gyfreithiol ac yn sicrhau cymorth mwy cyson i bob Plentyn ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru tra bydd gwaith yn cael ei wneud i gynyddu’r ddarpariaeth. Fel y trafodwyd yn Adran 3.4, byddai gwneud hynny’n symud y cyfrifoldeb oddi ar weithwyr cymdeithasol a chynghorwyr personol ac yn ei drosglwyddo i staff â gwybodaeth a chymwysterau arbenigol. Byddai hyn yn ei dro’n helpu i ysgafnhau llwyth gwaith gweithwyr cymdeithasol a chynghorwyr personol.

Mae’r gwerthusiad o Wasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban yn dangos gwerth Gwarcheidwaid wrth helpu Plant ar eu Pen eu Hunain drwy’r broses ceisio lloches (Gweler Adran 3.3). Mae Gwarcheidwaid yn yr Alban yn cael eu hyfforddi hyd Lefel 2 OISC, sy’n golygu bod ganddynt ddealltwriaeth drylwyr o’r maes cymhleth hwn o’r gyfraith. Er na ddylai Gwarcheidwaid gymryd lle gwasanaethau cyfreithiol arbenigol, mi all Gwarcheidwad sydd wedi cael hyfforddiant hyd Lefel 2 OISC allu cynnig cyngor ac arweiniad da fel rhan o berthynas hygyrch a chyson. Mae gwybodaeth o’r fath yn eu rhoi mewn sefyllfa gref i ddod o hyd i wasanaethau cyfreithiol o safon, i helpu pobl ifanc drwy’r broses lloches, ac i helpu ag ymgysylltiad pobl ifanc â chynrychiolwyr cyfreithiol. Lle mae bylchau mewn cynrychiolaeth gyfreithiol, gallai Gwarcheidwad am gyfnod rwystro’r perygl y gallai plentyn ‘syrthio drwy’r craciau’’. Yn y pen draw, byddai cynllun o’r fath yng Nghymru yn gwella canlyniadau cyfreithiol i Blant ar eu Pen eu Hunain.

4. Sut allai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru edrych?

Rhaid i Wasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru ystyried anghenion y plant mae’n eu gwasanaethu, ond rhaid iddo hefyd yn ystyried cyd-destun penodol Cymru. Yn yr adran hon, rydym yn edrych ar rai o’r ffactorau allweddol y credwn y dylai gael eu cynnwys mewn Gwasanaeth Gwarcheidiaeth cenedlaethol ar gyfer Plant ar eu Pen eu Hunain. Nid ydym wedi ceisio cynnwys fframwaith manwl, ond yn hytrach yr egwyddorion sylfaenol a ddylai fod yn sail i wasanaeth.

4.1. Ffactorau allweddol

  • Ar gael i bawb: Gwasanaeth cenedlaethol a ddarperir ledled Cymru ac sydd ar gael i bob Plentyn ar eu Pen eu Hunain, yn unol â galwadau Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
  • Ar gael wrth gyrraedd: Dylai Gwarcheidwad gael eu penodi ar gyfer pob Plentyn ar eu Pen eu Hunain cyn gynted ag y byddant yn cyrraedd Cymru. Byddai hyn yn sicrhau bod hawliau plant yn cael eu gwarchod o ddechrau eu bywyd yng Nghymru, eu bod yn cael help, ac nad oes yr un Plentyn ar eu Pen eu Hunain yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain. Dylai’r gwasanaeth weithio’n glos â Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol y Swyddfa Gartref, y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol, llety lloches, a gwestai lloches, i sicrhau bod plant yn cael eu canfod, eu helpu a’u lleoli’n briodol, yn gyflym.
  • Gwasanaeth annibynnol: Dylai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru fod yn annibynnol ar unrhyw gorff statudol. Yn yr un modd ag y mae Gwarcheidwaid Plant yn cael eu penodi gan y Llysoedd, rydym yn credu y dylai Gwarcheidwaid ar gyfer Plant ar eu Pen eu Hunain fod yn annibynnol ar y wladwriaeth, awdurdodau lleol, y Llysoedd, a phob corff statudol arall. Byddai hyn yn galluogi Gwarcheidwaid i amddiffyn hawliau a buddiannau plant yn gwbl ddiduedd.
  • Hyfforddedig ac Arbenigol: Yn ogystal â meddu ar arbenigedd a phrofiad o weithio â phlant, dylai pob Gwarcheidwad yn y Gwasanaeth fod wedi’u hyfforddi hyd Lefel 2 OISC 2 neu sy’n cyfateb i IAAS neu’n gweithio i ennill y cymwysterau hyn. Bydd hyn yn arwain at fuddiannau enfawr i blant wrth iddynt weithio’u ffordd drwy’r broses lloches a bydd yn gwneud iawn am rai o effeithiau’r dirywiad difrifol yn y ddarpariaeth gyfreithiol i fewnfudwyr yng Nghymru.
  • Integredig ac effeithlon: Dylai’r Gwasanaeth gydweithio’n glos ac yn gefnogol â gweithwyr cymdeithasol, cynghorwyr cyfreithiol, gweithwyr achos y Swyddfa Gartref, Migrant Help, ysgolion, colegau, ysbytai, ac asiantaethau trydydd sector sy’n gweithio i helpu ceiswyr lloches ac i hybu llesiant plant. Dylai gwasanaethau statudol fod yn ymwybodol o rôl a diben Gwarcheidwad a’r buddiannau a all ddod yn sgil hynny.
  • Cefnogol ac ysgogol: Dylai Gwarcheidwaid ddarparu’r mathau canlynol o gymorth:
  • Meithrin ymddiriedaeth a pherthynas gefnogol â phlant.
  • Helpu’r plentyn i gyfarwyddo ac addasu’n gymdeithasol.
  • Helpu’r plentyn i gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol.
  • Hysbysu’r plentyn o achosion cyfreithiol ac eraill.
  • Gweithio â phobl ifanc i’w helpu i ddatblygu datganiadau i ategu eu cais am loches.
  • Mynychu apwyntiadau’r Swyddfa Gartref â’r plentyn.
  • Cysylltu â chyfreithwyr, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yr heddlu a swyddogion y Swyddfa Gartref ar ran y plentyn.
  • Egluro prosesau (e.e. cyfreithiol, gofal, ac addysg), i sicrhau bod y plentyn yn deall beth sy’n digwydd iddynt, y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud, a’r opsiynau sydd ar gael iddynt.
  • Sicrhau bod lleisiau a dewisiadau plant yn cael eu clywed a’u parchu.
  • Hwyluso presenoldeb a chyfranogiad plant mewn cyfarfodydd.
  • Darparu cymorth cyfannol i blant i alluogi integreiddiad, parhad cyngor a chymorth emosiynol.
  • Gwneud atgyfeiriadau at wasanaethau arbenigol (e.e. i roi sylw i bryderon ynglŷn ag iechyd meddwl neu gorfforol, gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma, gwasanaethau diwylliannol, neu gymdeithasu a chwarae sy’n briodol i anghenion y plentyn).
  • Parhaol a grymusol: Dylai’r Gwasanaeth Gwarcheidiaeth barhau gyda Phlentyn ar eu Pen eu Hunain i weithredu fel ffynhonnell barhaus o gymorth ac amddiffyniad wrth iddynt gyrraedd annibyniaeth ac oedolaeth. Dylai’r gwasanaeth barhau mewn cysylltiad boed y plentyn wedi gadael gofal ai peidio, naill ai’n wirfoddol, neu o ganlyniad i’w statws mudo.
  • Amddiffyn hawliau a chyfiawnder: Dylai Gwarcheidwaid gael eu grymuso i siarad ar ran y plant maent yn gweithio â hwy, i amddiffyn eu buddiannau, ac i hyrwyddo eu hawliau.
  • Tîm ag adnoddau digonol: Dylai’r Gwasanaeth Gwarcheidiaeth gael digon o adnoddau i ddarparu cymorth parhaus a chynhwysfawr i Blant ar eu Pen eu Hunain. Bydd mynediad at hyfforddiant parhaus, adnoddau a gwybodaeth sy’n cael eu diweddaru’n hanfodol.
  • Ymatebol ac yn canolbwyntio ar y plentyn: Mae’n bwysig bod Plant ar eu Pen eu Hunain yn cael eu cynnwys cymaint â phosibl yn natblygiad Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yng Nghymru, i sicrhau bod y gwasanaeth yn diwallu eu hanghenion. Mae prosiectau eisoes ar hyd a lled y wlad sy’n gweithio â Phlant ar eu Pen eu Hunain a allai gyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth.

4.2. Costau

Nid ydym wedi cynnwys dadansoddiad manwl o gostau’r gwasanaeth arfaethedig. Cafodd rhywfaint o waith, sy’n seiliedig ar Wasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban a’r Nidos7, Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yn yr Iseldiroedd, ei gwblhau yn 2014 gan Gronfa Plant y Cenhedloedd Unedig y DU (UNICEF UK) a Chymdeithas y Plant ar gostau a buddiannau cynllun Cymru a Lloegr.xli Am asesiad manwl o gostau, byddai angen diweddaru hwn, ac ystyried y costau yn achos Cymru’n unig.

Byddai angen i’r gwasanaeth hwn gael ei ddarparu gan dîm o Warcheidwaid sy’n gweithio’n uniongyrchol â Phlant ar eu Pen eu Hunain, rheolwyr gwasanaeth, a staff cymorth. Byddai’r costau a ddylai gael eu hystyried gynnwys, ond heb eu cyfyngu i, costau recriwtio, cyflogau, gofod swyddfa, a chyfieithu a chyfieithu ar y pryd, gyda’r olaf y costau mwyaf. I roi syniad o’r gost, mae Llywodraeth yr Alban yn talu swm blynyddol i Guardianship Scotland o £1 miliwn am 13 o Warcheidwaid, gyda chyllid am 12 Gwarcheidwaid ychwanegol yn cael ei ddarparu’n allanol.

Mae llawer o Blant ar eu Pen eu Hunain sy’n cael gofal gan awdurdodau lleol Cymru wedi’u lleoli yn Lloegr, felly byddai’n rhaid ystyried costau teithio y tu hwnt i Gymru, er ein bod yn nodi bod llawer o’r rhyngweithio yn yr Alban rhwng Gwarcheidwaid a phlant yn digwydd drwy alwadau fideo.

4.3. Buddiannau

Rydym wedi sôn drwy gydol y ddogfen hon am yr holl ffyrdd mae Gwarcheidiaeth yn cael effaith bositif ar fywydau Plant ar eu Pen eu Hunain. Mae Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban yn fodel enghreifftiol o sut y gall gwasanaeth o’r fath ddiwallu anghenion Plant ar eu Pen eu Hunain. Rydym yn cydnabod na fydd costau Gwasanaeth Gwarcheidiaeth i bob plentyn ar eu Pen eu Hunain yn fychan. Fodd bynnag, byddai’r buddiannau gwasanaeth o’r fath i ddiogelu hawliau plant a gwella canlyniadau i blant yn enfawr. Byddai’r effeithiau ar gyfiawnder cymdeithasol, integreiddio, ac addysg yn bositif a pharhaol.

Yn ychwanegol at yr effaith bositif y byddai’n ei gael ar fywydau Plant ar eu Pen eu Hunain, byddai Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yn arwain at fuddiannau i randdeiliaid sy’n gweithio â Phlant ar eu Pen eu Hunain. Un o’r buddiannau hyn fyddai’r amser y byddai gweithwyr cymdeithasol yn ei arbed, o ganlyniad i weithio â Gwarcheidwaid. Yn yr arfarniad ar y cyd gan Gymdeithas y Plant ac UNICEF UK y cyfeiriwyd ato yn (4.2) uchod, nodwyd buddiannau mewn meysydd allweddol yn sgil cydweithredu rhwng Gwarcheidwaid a gweithwyr cymdeithasol. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i, asesiadau oedran ac anghydfodau (i), a Phlant ar eu Pen eu Hunain sy’n mynd ar goll (ii).

  1. O ran asesiadau oedran, budd disgwyliedig a fyddai’n deillio o’r rhyngweithio rhwng Gwarcheidwaid, gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau sy’n rhan o’r broses asesu oedran fyddai “gwybodaeth fwy eglur a chryno gan, ac ar ran, y plentyn”,xlii yn ogystal â’r amser y byddai gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau’n ei arbed wrth gynnal asesiadau oedran. Byddai hyn hefyd yn dod ag arbedion ariannol yn ei sgil. Hefyd, gallai presenoldeb a’r gwaith a wneir gan Warcheidwad leihau’r perygl o benderfyniadau anghywir mewn asesiadau oedran, a thrwy hynny osgoi’r angen am ragor o asesiadau oedran.
  2. Pan fydd Plentyn ar eu Pen eu Hunain yn mynd ar goll, daw’r gweithdrefnau priodol yn weithredol, a byddant yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol — er enghraifft, ar gyfer cyfweliadau dychwelyd adref (os ydynt yn cael eu darparu’n fewnol gan staff yr awdurdod lleol). Budd disgwyliedig a fyddai’n deillio o’r perthnasoedd a’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Warcheidwaid, yw y byddai Plant ar eu Pen eu Hunain yn mynd ar goll yn llai aml, llai o achosion lle byddai hynny’n cael ei ailadrodd, a chynyddu’r posibilwydd o atal rhai Plant ar eu Pen eu Hunain rhag mynd ar goll. Yn ôl arfarniad Cymdeithas y Plant/UNICEF UK, “y disgwyl yw y byddai Gwarcheidiaeth gyfreithiol yn lleihau nifer y plant sydd ar goll ac felly’n lleihau’r gofynion ar amser gweithwyr cymdeithasol”.xliii Disgwylir y byddai hyn hefyd yn arwain at arbedion ariannol.

Hefyd, rhagwelir y byddai arbedion o ran amser cyfieithwyr fel rhan o’u cyfraniad at asesiadau oedran a gweithdrefnau ar ôl i blant fynd ar goll, a fyddai hefyd yn golygu arbedion ariannol.

Mae gwerthusiad 2013 o beilot Gwasanaeth Gwarcheidiaeth yr Alban yn nodi “bod tystiolaeth glir fod Gwarcheidwaid yn helpu pobl ifanc i ddeall cymhlethdodau’r broses lloches, sy’n arwain at ganlyniadau clir, amserol a phositif yn aml i rai sy’n ceisio lloches neu sydd wedi cael eu masnachu”xliv a nodwyd hyn yng ngwerthusiad 2021 hefyd.xlv

O gofio bod Plant ar eu Pen eu Hunain hefyd yn debygol o gael gofal gan awdurdodau lleol, byddai’r tebygrwydd uwch o ganlyniad lloches positif pan fydd Gwarcheidwad yn gysylltiedig â’r broses yn cyflymu’r broses i’r Plant ar eu Pen eu Hunain i symud o ofal i fyw’n fwy annibynnol. Mae llai o heriau ac apelau yn erbyn penderfyniadau gwreiddiol yn debygol o olygu y byddai llai o rwystrau yn sefyll yn y ffordd at broses fwy esmwyth o symud o ofal i fyw’n fwy annibynnol.

5. Casgliad

Er bod peth gwaith rhagorol yn cael ei wneud eisoes i helpu Plant ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru, nid oes digon o gymorth ar gael i bob plentyn ar eu Pen eu Hunain. Yn benodol, mae diffyg help iddynt i weithio’u ffordd drwy’r broses gymhleth o geisio lloches.

Rydym o’r farn bod ffactorau fel llwythi gwaith, gwasanaethau dan bwysau a pherthnasoedd gweithio annigonol rhwng awdurdodau lleol a chyfreithwyr mewnfudo’n rhwystrau rhag sicrhau bod pob Plentyn ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru yn cael cynnig help i geisio lloches, sydd wedi dod yn fwy angenrheidiol fyth o gofio’r prinder gwasanaethau cyfreithiol, a’r heriau ychwanegol sy’n codi yn sgil deddfwriaeth fel y Ddeddf Mudo Anghyfreithlon.

Rydym yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Gwasanaeth Gwarcheidiaeth a fyddai ar gael i bob Plentyn ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru ac a fyddai’n eu helpu i weithio’u ffordd drwy’r broses gymhleth o geisio lloches. Dylai’r gwasanaeth gael ei gynnig i bob Plentyn ar eu Pen eu Hunain sydd yng Nghymru’n barod ac i bobl Plentyn ar eu Pen eu Hunain pan fyddant yn cyrraedd Cymru.

Ar adeg ysgrifennu, mae’r Cynllun Cenedl Noddfa yn cael ei ddiweddaru ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno bil gofal cymdeithasol gerbron y Senedd. Rydym o’r farn bod y ffrydiau gwaith hyn yn gyfle i gyflwyno Gwasanaeth Gwarcheidiaeth i bob plentyn ar eu Pen eu Hunain yng Nghymru, a thrwy wneud hynny, gwella mynediad at y cymorth holl bwysig sydd ei angen ar rai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas.

--

--

The Children's Society
The Children's Society

Written by The Children's Society

Supporting young people to build hope for their futures.

No responses yet